Text Box: David Melding AC, 
 Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
 Cynulliad Cenedlaethol Cymru
 Bae Caerdydd
 CF99 1NA

 

16 Tachwedd 2015

Annwyl David

Bil Cymru Drafft

Yn ein cyfarfod ar 4 Tachwedd, buom yn trafod Bil Cymru drafft. Buom yn ystyried:

-   a yw’n bodloni nod yr Ysgrifennydd Gwladol o ddarparu setliad datganoli clir a fydd yn para’n hir;

-   yr effaith y byddai’r Bil drafft hwn yn ei chael ar y meysydd polisi yr ydym ni’n gyfrifol am graffu arnynt.

Cyfyngedig fu ein hystyriaeth hyd yma oherwydd yr amser sydd ar gael inni i ystyried y Bil drafft, ond roeddem yn teimlo ei bod yn bwysig ein bod yn rhoi mewnbwn i’ch gwaith o fewn yr amser y gofynnwyd amdano.

Ein hymateb cychwynnol yw nad yw’r Bil drafft yn darparu setliad datganoli clir a fydd yn para’n hir.

Rydym yn datblygu ein safbwynt ar y pwyntiau hyn, ond ar hyn o bryd rydym o’r farn bod nifer o enghreifftiau ble y bydd y Bil drafft yn ychwanegu cymhlethdod; yn creu ansicrwydd; ac yn lleihau cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad.

Er yn croesawu’n fras y cynnydd o ran cymhwysedd deddfwriaethol a gweithredol, rydym yn pryderu ynghylch y sail a ddefnyddir i gynnig rhai o’r cymwyseddau hyn a’r cyfle cyfyngedig y maent yn ei ddarparu i wneud penderfyniadau gwirioneddol ddatganoledig. Rydym yn pryderu bod rhai meysydd hefyd lle yr ymddengys bod cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad yn llai, a byddwn yn rhoi rhagor o ystyriaeth i hyn.

Rwy’n gobeithio darparu rhagor o fanylion ar y pwyntiau hyn yn yr wythnosau nesaf.

Yn atodedig i’r llythyr hwn mae tabl sy’n amlinellu ein dadansoddiad o gymalau cadw arfaethedig y Bil drafft o fewn y meysydd polisi y mae’r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd yn gyfrifol amdanynt.

Byddwch yn gweld o’r tabl hwn bod cwestiynau heb eu hateb ynglŷn â’r rhesymeg sy’n sail i rai o’r newidiadau o ran cymhwysedd, a goblygiadau posibl y newidiadau hyn.

Byddwn yn ystyried y Bil drafft ymhellach, a’n bwriad yw ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol a’r Pwyllgor Materion Cymreig cyn toriad y Nadolig. Byddwn yn anfon copi o’r ohebiaeth hon atoch chi; er, noder na fydd hyn yn digwydd o fewn yr amser a nodwyd gennych ar gyfer ystyried y Bil drafft.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth byddwn yn fodlon cwrdd â chi i drafod y mater hwn ymhellach.

Yn gywir

Description: P:\OPO\Committees\Committees (2011-2016)\Env & Sustainability\Correspondence\Chair's correspondence\Alun Ffred Jones sig.jpg

Alun Ffred Jones AC

Cadeirydd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd

 

 

Croesewir gohebiaeth yn Gymraeg neu’n Saesneg.

We welcome correspondence in Welsh or English.

Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd

Barn gychwynnol ar y cymalau cadw arfaethedig ym Mil Cymru drafft sy’n berthnasol i waith y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd

Cymal cadw

 

                                    

Newid i gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad

Sylwadau

B6 Ymddygiad gwrthgymdeithasol

 

 

42 - Ymddygiad gwrthgymdeithasol

Oes

Mae’r eithriad presennol yn Neddf 2006 yn atal y Cynulliad rhag deddfu ynghylch ‘orders to protect people from behaviour that causes or is likely to cause harassment, alarm or distress’. Mae’r Bil drafft yn cysylltu’r mater a gedwir yn ôl â’r pwnc yn Rhan 1 - 6 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014, sy’n cynnwys, er enghraifft, gwaharddebau, hysbysiadau gwarchod cymuned a gorchmynion gwarchod mannau cyhoeddus. Mae’r diffiniad o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn Adran 2 o Ddeddf 2014 hefyd yn ehangach na’r eithriad cyfredol. Ar hyn o bryd, mae gan y Cynulliad gymhwysedd mewn perthynas â niwsans amgylcheddol. Gallai’r cyfyngiad leihau cymhwysedd y Cynulliad i ddeddfu mewn meysydd fel baw cŵn, niwsans sŵn, rheoli’r planhigyn clymog Japan ac ati.

 

43 - Cŵn peryglus a chŵn sydd allan o reolaeth

Oes

Ar ddiwedd 2012, dechreuodd Llywodraeth Cymru ymgynghori ar y Bil Rheoli Cŵn (Cymru) drafft a oedd yn cynnwys darpariaethau ar gyfer cŵn peryglus a chŵn sydd allan o reolaeth.  Bu oedi o ran y Bil oherwydd bod darpariaeth debyg i gael ei gwneud yn Neddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014. Er y bu anghytuno rhwng y llywodraethau perthnasol yn ystod hynt y Ddeddf honno ynghylch a oedd gan y Cynulliad gymhwysedd i ddeddfu mewn perthynas â chŵn peryglus, ni chafodd unrhyw ddadleuon eu codi ynghylch rheoli cŵn yn gyffredinol. Mae’r mater a gedwir yn ôl yn ehangach na’r awgrym yn pwerau at bwrpas y dylai ‘cŵn peryglus’ fod yn fater a gedwir yn ôl. Pe bai’r Bil drafft yn dod yn gyfraith byddai’n golygu na fyddai modd i’r Cynulliad symud ymlaen o ran y Bil pe bai’n dymuno gwneud hynny.

B17 – Hela

 

 

57 - Hela â chŵn

Nac oes

 

 

 

 

 

B18 – Gweithdrefnau gwyddonol ac addysgol ar anifeiliaid byw

 

 

58 – Gweithdrefnau ar anifeiliaid byw at ddibenion gwyddonol neu addysgol

Oes

Yr eithriad presennol yw ‘rheoleiddio gweithdrefnau gwyddonol neu gweithdrefnau arbrofol eraill  ar anifeiliaid’.  Mae’r mater a gedwir yn ôl arfaethedig yn ehangach, ac nid yw’n gyfyngedig i reoleiddio gweithdrefnau o’r fath yn unig. Mae hyn yn annhebygol o gael llawer o effaith ymarferol oherwydd Cyfraith yr UE a swyddogaethau presennol Gweinidog y Goron. Nid yw Gweinidogion Cymru yn arfer unrhyw swyddogaethau gweithredol o dan Ddeddf Anifeiliaid (Gweithdrefnau Gwyddonol) 1986 ar hyn o bryd.

B21 - Elusennau a chodi arian

 

 

61 - Elusennau

62 - Codi arian at ddibenion elusennol, llesiannol neu ddyngarol

Oes

Mae adran 57 o Fil yr Amgylchedd (Cymru) yn darparu bod "Rhaid i reoliadau bagiau siopa ei gwneud yn ofynnol i’r enillion net o’r tâl gael eu cymhwyso at ddibenion elusennol."  Nid yw’n glir a fyddai darpariaeth o’r fath y tu allan i gymhwysedd y Cynulliad o dan y setliad arfaethedig. Er nad diben y ddarpariaeth yw bod o fudd i elusennau, ei heffaith yn sicr yw codi arian at ddiben elusennol. Sut y bydd yn effeithio ar gyrff datganoledig sydd â statws elusennol?

C4 Eiddo deallusol

 

 

68 - Eiddo deallusol

Eithriad –

Amrywogaethau planhigion a hadau

Oes

 

Roedd yr hyn a hepgorwyd yn flaenorol o’r eithriad ‘eiddo deallusol’ yn ymwneud ag amrywogaethau planhigion yn unig. Mae’r cynnig yn ehangu’r hyn sy’n cael ei hepgor, er mwyn rhoi cymhwysedd i’r Cynulliad ddeddfu mewn perthynas ag eiddo deallusol ar gyfer amrywogaethau hadau, yn ogystal ag amrywogaethau planhigion.

C5 Mewnforio, allforio a symud planhigion ac ati

 

 

69 - gwahardd a rheoleiddio –

(a) mewnforion ac allforion, a

(b) symud bwyd, planhigion, anifeiliaid a phethau eraill o fewn y Deyrnas Unedig.

Eithriadau

Gwahardd a rheoleiddio sy’n ymwneud â bwyd, planhigion, anifeiliaid a phethau cysylltiedig, ac sydd at ddibenion –

(a) amddiffyn iechyd dynol, iechyd anifeiliaid neu blanhigion, lles anifeiliaid neu’r amgylchedd, neu

(b) cadw at rwymedigaethau o dan y Polisi Amaethyddol Cyffredin neu eu gweithredu.

 

Gwahardd a rheoleiddio sy’n ymwneud â phorthiant anifeiliaid, gwrteithiau neu blaladdwyr (neu bethau a gaiff, yn rhinwedd deddfiad, eu trin fel plaladdwyr), ac sydd at ddibenion diogelu iechyd dynol, iechyd anifeiliaid neu blanhigion neu’r amgylchedd.

 

Ond nid yw gwahardd a rheoleiddio at ddibenion gwarchod rhywogaethau planhigion ac anifeiliaid sydd mewn perygl wedi’i eithrio.

Nac oes –mae’r eithriad wedi’i eirio’n wahanol, ond gweler y sylwadau.

Mae’r hyn y cynigir ei hepgor o’r eithriad yn gwneud yn glir bod gwahardd a rheoleiddio symud planhigion, anifeiliaid ac ati at ddibenion gwarchod rhywogaethau anifeiliaid a phlanhigion sydd mewn perygl wedi’i gadw’n ôl i Lywodraeth y DU. Nid yw’r hyn a hepgorir o’r eithriad presennol o dan bennawd 1 yn Atodlen 7 (Amaethyddiaeth, coedwigaeth, anifeiliaid, planhigion a datblygu gwledig) yn datgan hyn yn benodol, ond mae’n debygol mai’r rheswm yw nad yw gwarchod rhywogaethau sydd mewn perygl, ei hun, yn bwnc yn Atodlen 7. Mae gwahardd a rheoleiddio mewnforio ac allforio rhywogaethau sydd mewn perygl hefyd yn fater wedi’i gadw’n ôl yn yr Alban. Nid yw’r newid yn debygol o gael llawer o effaith ymarferol, oherwydd mai’r sail ar gyfer y gyfraith bresennol ar lefel y DU a lefel y Comisiwn Ewropeaidd yw’r Confensiwn ar Fasnachu Rhyngwladol mewn Rhywogaethau sydd Mewn Perygl (CITES).

C6 Diogelu defnyddwyr

 

 

70 - Rheoleiddio –

(a) gwerthu a chyflenwi nwyddau a gwasanaethau i ddefnyddwyr,

(b) gwarantau mewn perthynas â nwyddau a gwasanaethau o’r fath

(c) hur bwrcas, gan gynnwys pwnc rhan 3 o Ddeddf Hurbwrcas 1964,

(d) disgrifiadau masnach,

(e) hysbysebu camarweiniol a chymharol, ac eithrio rheoliadau mewn perthynas â thybaco a chynhyrchion tybaco yn benodol.

(f) dynodiadau pris,

(g) arwerthiannau ac arwerthiannau ffug ar gyfer nwyddau a gwasanaethau, ac

(h) dilysnodi a phrawfesur barilau dryll.

71 - Diogelwch gwasanaethau a ddarperir i ddefnyddwyr, ac atebolrwydd amdanynt.

72 – Rheoleiddio -

(a) asiantau gwerthu tai

(b) cyfrannau cyfnodol, ac

(c) pecynnau teithio a phecynnau gwyliau.

73 – Rheoleiddio          

(a) gwasanaethau a nwyddau digymell a

(b) cynlluniau masnachu.

74 - Pwnc Rhan 8 o Ddeddf Menter 2002.

 

Eithriad –

Bwyd, cynhyrchion bwyd a deunyddiau sy’n dod i gysylltiad â bwyd

 

 

Oes

Ymddengys bod yr eithriad i’r mater a gedwir yn ôl wedi’i gulhau.

 

O dan y setliad presennol, mae cynhyrchion amaethyddol a garddwriaethol, anifeiliaid a chynhyrchion anifeiliaid, hadau, gwrteithiau a phlaladdwyr (a’r pethau sy’n cael eu trin, yn rhinwedd deddfiad, fel plaladdwyr) wedi cael eu hepgor o’r eithriad cyffredinol: ‘consumer protection including the sale and supply of goods to consumers, consumer guarantees, hire purchase, trade descriptions, advertising and price indications’.  Golyga hyn y câi’r Cynulliad ddeddfu mewn perthynas â diogelu defnyddwyr, er enghraifft, ar y pynciau hynny, ar yr amod ei fod yn pasio pob prawf arall. O dan y setliad arfaethedig dim ond deddfwriaeth sy’n ymwneud â bwyd, cynhyrchion bwyd a deunydd sy’n dod i gysylltiad â bwyd sydd wedi’u heithrio’n benodol o’r mater a gedwir yn ôl ym maes diogelu defnyddwyr.

 

C7 Safonau a diogelwch cynnyrch, ac atebolrwydd

 

 

75 - Safonau technegol a gofynion mewn perthynas â chynhyrchion yn unol â rhwymedigaeth o dan gyfraith yr UE.

76 – Y corff achredu cenedlaethol ac achredu cyrff sy’n ardystio neu’n asesu cydymffurfiaeth â safonau technegol mewn perthynas â chynhyrchion neu systemau rheoli amgylcheddol

77 - Diogelwch cynnyrch ac atebolrwydd amdanynt

78 - Labelu cynnyrch

 

Eithriadau

 

Bwyd, cynhyrchion bwyd a deunyddiau sy’n dod i gysylltiad â bwyd.

Cynnyrch amaethyddol a garddwriaethol, pysgod a chynhyrchion pysgod, hadau, porthiant anifeiliaid, gwrteithiau a phlaladdwyr (gan gynnwys unrhyw beth sy’n cael ei drin fel plaladdwyr yn rhinwedd deddfiad).

Oes

Mae geiriad yr eithriad arfaethedig i’r mater a gedwir yn ôl yn wahanol i’r hyn a hepgorwyd o’r eithriad presennol yn Atodlen 7 ac mae wedi’i gulhau o bosibl.

 

Mae’n ymddangos y gallai’r Cynulliad ddeddfu mewn perthynas â safonau a diogelwch cynnyrch ac atebolrwydd ar gyfer pysgod a chynhyrchion pysgod, ond mae’r newid o "animals and animal products" i "animal feeding stuffs" yn fwy cul. Mae’r geiriad yr un fath â’r geiriad yn Neddf yr Alban.

 

C16 Dŵr

 

 

93 – Penodi a rheoleiddio unrhyw ymgymerwr dŵr sy’n gwasanaethu ardal nad yw yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru.

94 -Trwyddedu a rheoleiddio cyflenwr dŵr trwyddedig

95 – Penodi a rheoleiddio ymgymerwr carthffosiaeth sy’n gwasanaethu ardal nad yw yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru.

96-Trwyddedu a rheoleiddio trwyddedai carthffosiaeth trwyddedig

97-Yr Awdurdod Rheoleiddio Gwasanaethau Dŵr

 

Eithriadau

Rheoleiddio cyflenwr dŵr trwyddedig mewn perthynas â gweithgareddau trwyddedig sy’n defnyddio system gyflenwi ymgymerwr dŵr y mae ei ardal yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru.

 

Rheoleiddio trwyddedai carthffosiaeth mewn perthynas â gweithgareddau trwyddedig sy’n defnyddio system garthffosiaeth ymgymerwr carthffosiaeth y mae ei ardal yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru.

Oes

Mae’r Cynulliad wedi cael cymhwysedd deddfwriaethol ar gyfer carthffosiaeth fel y nodir yn y pwerau at bwrpas.

 

Mae’r cyfyngiadau ar gyfer ymgymerwyr carthffosiaeth yn adlewyrchu’r cyfyngiadau ar gyfer ymgymerwyr dŵr.

 

Bellach ceir mater a gedwir yn ôl penodol mewn perthynas â’r awdurdod rheoleiddio gwasanaethau dŵr (OFWAT ar hyn o bryd). Ofwat yw’r rheoleiddiwr economaidd ar gyfer gwasanaethau dŵr a’r corff hwn sy’n gyfrifol am osod cyfyngiadau pris, annog cystadleuaeth ac ati. Ni allai’r Cynulliad wneud darpariaeth mewn perthynas ag unrhyw un o’i weithgareddau economaidd gan y byddai hyn yn debygol o dramgwyddo un o’r eithriadau eraill yn Atodlen 7 e.e. ‘rheoleiddio arferion gwrthgystadleuol’, ‘dynodiadau pris’ ac ati.  Mae Llywodraeth Cymru yn dadlau yn ei chyflwyniad i Swyddfa Cymru, dyddiedig 7 Medi 2015, ei bod yn bosibl y gallai deddfwriaeth y Cynulliad sefydlu rheoleiddiwr dŵr ar wahân at ddibenion cyflenwi dŵr a rheoli adnoddau ac ati. Bydd Ofwat hefyd yn gorff a enwir o ganlyniad i fod yn fater a gedwir yn ôl, a bydd hyn yn gosod cyfyngiadau ychwanegol ar gymhwysedd y Cynulliad. Ni fydd y Cynulliad yn gallu rhoi, addasu na dileu swyddogaethau Ofwat, deddfu ynghylch ei gyfansoddiad, na rhoi, addasu na dileu swyddogaethau penodol sy’n arferadwy mewn perthynas ag Ofwat.

C17 Mwynau nad ydynt yn cynhyrchu ynni

 

 

98-Chwilio am fwynau nad ydynt yn gallu cynhyrchu ynni ac elwa arnynt

Oes

Byddai hyn yn cynnwys mwynau fel tywod, clai, sialc, graean ac ati. Mae gan y Cynulliad gymhwysedd o ran ‘gweithfeydd mwynol’ ar hyn o bryd. Hefyd mae gan y Cynulliad gymhwysedd ar hyn o bryd dros bynciau fel yr ‘yr arfordir a’r amgylchedd morol (gan gynnwys gwely’r môr)’, a ‘gwarchodaeth amgylcheddol’ a gallai hyn ddarparu cymhwysedd, er enghraifft, ar gyfer deddfwriaeth sy’n gwahardd math o waith mwynau am iddo gael effeithiau niweidiol ar yr amgylchedd.

D1 Trydan

 

 

102-Cynhyrchu, trosglwyddo, dosbarthu a chyflenwi trydan

Nac oes

 

D2 Olew a nwy

 

 

103-Olew a nwy, gan gynnwys –

(a) perchnogaeth dyddodion olew a nwy naturiol, chwilio amdanynt ac elwa arnynt

(b) gosodiadau a phiblinellau ar y môr,

(c) pwnc Deddf Piblinellau 1962 (gan gynnwys adran 5 (caniatâd cynllunio tybiedig)) i’r graddau y mae’n ymwneud â phiblinellau o fewn ystyr adran 65 o’r Ddeddf honno,

(d) llygredd sy’n gysylltiedig â chwilio am olew neu elwa arno, ond dim ond i’r graddau y mae’r chwilio neu’r elwa ar ochr y môr i ddyfroedd tiriogaethol perthnasol.

(e) trwyddedu gweithgareddau morol i’r graddau y maent yn ymwneud â chwilio am olew neu elwa arno, ond dim ond mewn perthynas â gweithgareddau a gyflawnir ar ochr y môr i ddyfroedd tiriogaethol perthnasol.

(f) cyfyngiadau ar fordwyo, pysgota a gweithgareddau eraill er mwyn sicrhau gweithrediad diogel gweithgareddau ar y môr.

(g) hylifo ac ailnwyeiddio nwy naturiol, ac

(h) trawsgludo nwy, ei gludo mewn llongau a’i gyflenwi.

Oes

Mae’r mater a gedwir yn ôl yn llawer mwy manwl na’r eithriad presennol yn Atodlen 7 i Ddeddf 2006 sy’n cyfeirio at "Olew a nwy..."

 

Mae’r mater a gedwir yn ôl yn debyg i’r hyn a geir yn Neddf yr Alban 1998.

 

Mae Llywodraeth Cymru, yn ei chyflwyniad i Swyddfa Cymru (copi wedi’i adneuo yn y Llyfrgell), wedi codi nifer o ymholiadau ynghylch beth yw ystyr rhai o’r materion hyn a gedwir yn ôl.

 

Yn benodol mae’n aneglur beth yw ystyr "offshore" yng nghyd-destun rhai o’r materion a gedwir yn ôl, a hefyd pam, mewn perthynas â materion a gedwir yn ôl 103(d) ac (e) y mae "relevant territorial waters " wedi’u diffinio fel 3 milltir forol o’r llinell sylfaen yn hytrach na 12 milltir forol.

 

Fodd bynnag, mae’r Cynulliad wedi cael cymhwysedd mewn perthynas â rhoi a rheoleiddio trwyddedau petrolewm (heblaw am yr ystyriaeth sy’n daladwy) a mynediad i dir at ddiben chwilio am betrolewm neu ei gael o dan drwyddedau o’r fath.

D3 Glo

 

 

104-Glo, gan gynnwys

(a) perchnogaeth glo ac elwa arno,

(b) cloddio glo dwfn a glo brig

(c) ymsuddiant sy’n ymwneud â chloddio am lo, a

(d) gollwng dŵr o byllau glo

Eithriad –

Adfer tir

 

Oes

Mae’r eithriad presennol yn Atodlen 7 i Ddeddf 2006 ar gyfer ‘glo, gan gynnwys mwyngloddio ac ymsuddiant, ar wahân i adfer tir a materion amgylcheddol eraill.

 

Mae’n ymddangos bod y mater a gedwir yn ôl arfaethedig yn ehangu’r eithriad presennol drwy gynnwys dŵr sy’n gollwng o byllau glo, a gellid dadlau bod hyn yn ymwneud â gwarchod yr amgylchedd. Mae hefyd yn culhau’r hyn a oedd wedi’i hepgor o’r eithriad blaenorol, o ‘adfer tir a materion amgylcheddol eraill’ i adfer tir yn unig, felly mae’n ymddangos na allai’r Cynulliad yn awr, o dan y setliad arfaethedig, wneud darpariaeth amgylcheddol sy’n lliniaru effeithiau cloddio am lo.

D4 Ynni niwclear

 

 

105 - Ynni niwclear a safleoedd niwclear, gan gynnwys –

(a) diogelwch, sicrwydd a chamau diogelu niwclear a

(b) atebolrwydd dros ddigwyddiadau niwclear

106 - Y Swyddfa Rheoleiddio Niwclear

 

Eithriad –

Gwaredu gwastraff ymbelydrol lefel isel iawn a gaiff ei symud o safle sydd angen trwydded safle niwclear.

 

Nac oes – Mae mân newidiadau i eiriad yr eithriad presennol ond nid yw hyn yn gwneud unrhyw newid perthnasol.

 

D5 Arbed ynni

 

 

107 - Arbed ynni

Eithriad –

Annog defnydd effeithlon o ynni ac eithrio drwy wahardd neu reoleiddio.

Nac oes

 

E3 Cludo ar y môr ac ar ddyfrffyrdd

 

 

126-132

 

Nac oes

Nid oes dim newid o ran y materion sydd o fewn cylch gwaith y Pwyllgor, e.e. cludo anifeiliaid ar longau.

G4 Milfeddygon

 

 

151 - Rheoleiddio’r proffesiwn milfeddygon

Oes

O dan y setliad presennol, gallai’r Cynulliad ddeddfu i wneud darpariaeth ar gyfer milfeddygon yng Nghymru cyhyd â bod deddfwriaeth o’r fath yn pasio’r profion eraill a bod y ddarpariaeth yn gysylltiedig â phwnc arall yn Atodlen 7, er enghraifft ‘Iechyd a lles anifeiliaid’.  Nid yw’n sicr faint o effaith ymarferol y bydd y mater hwn a gedwir yn ôl yn ei chael. Ar hyn o bryd, nid yw Gweinidogion Cymru yn arfer unrhyw swyddogaethau o dan Ddeddf Milfeddygon 1966.

H1 Cyflogaeth a chysylltiadau diwydiannol

 

 

154 – Hawliau a dyletswyddau cyflogaeth a chysylltiadau diwydiannol, gan gynnwys pwnc

 

(l) Deddf Gangfeistri (Trwyddedu) 2004

 

Eithriad –

 

Pwnc Deddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014

Oes

Er bod pwnc y Bil Sector Amaethyddol (Cymru) wedi’i eithrio o’r mater a gedwir yn ôl 154- Cyflogaeth a chysylltiadau diwydiannol, gan felly gadw’r sefyllfa fel y mae hi, nid yw’n glir beth yw ystyr yr ymadrodd "the subject matter". A all y Cynulliad  ddeddfu o ran pob mater cyflogaeth sy’n ymwneud â gweithwyr amaethyddol neu a yw wedi’i gyfyngu i’r materion yr ymdrinnir â hwy gan y Ddeddf yn unig, fel cyflog, gwyliau ac ati?  Byddai’r mater a gedwir yn ôl cyffredinol bellach yn golygu ei bod yn annhebygol y gallai’r Cynulliad ddeddfu mewn modd tebyg ar gyfer grwpiau eraill o weithwyr, ac yn wir bellach mae cyflogau ac amodau gwaith athrawon yn fater a gedwir yn ôl penodol.

 

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi nodi pryder yn ei chyflwyniad i Swyddfa Cymru, dyddiedig 7 Medi 2015, y gallai’r eithriad sy’n ymwneud â Deddf Gangfeistri (Trwyddedu) 2004 o bosibl leihau ei chymhwysedd o ran pysgodfeydd pysgod cregyn.

J4 Meddyginiaethau, cyflenwadau meddygol, sylweddau biolegol ac ati.

 

 

163 Cynhyrchion meddyginiaethol milfeddygol, gan gynnwys gweithgynhyrchu, awdurdodiadau ar gyfer eu defnyddio, a rheoleiddio prisiau.

164 Ychwanegion penodedig at borthiant

165 Porthiant anifeiliaid, mewn perthynas ag –

(a) corffori cynhyrchion meddyginiaethol milfeddygol neu ychwanegion penodedig ynddynt;

(b) materion sy’n codi o ganlyniad i gorffori o’r fath.

 

Oes ond gweler y sylwadau

Yr eithriad presennol yn Atodlen 7 yw "awdurdodiadau ar gyfer meddyginiaethau milfeddygol a chynhyrchion meddyginiaethol". Mae’n ymddangos bod y materion a gedwir yn ôl arfaethedig yn ehangach gan eu bod yn cynnwys gweithgynhyrchu cynhyrchion, eu corffori mewn bwydydd ac ati.  Mae’n ansicr a fyddai hyn yn cael llawer o effaith ymarferol, oherwydd y caiff cynhyrchion milfeddygol, porthiant anifeiliaid meddyginiaethol ac ati eu rheoleiddio gan yr UE.

M3 Cofrestru pridiannau a debenturau amaethyddol

 

 

199 - Pwnc adrannau 9 a 14 o Ddeddf Credydau Amaethyddol 1928, a’r Atodlen iddi.

 

 

 

 

 

Oes  ond gweler y sylwadau

Er nad yw hwn yn eithriad i gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad ar hyn o bryd, mae ynghlwm wrth y mater a gedwir yn ôl Pridiannau tir yn fwy cyffredinol, ac nid yw hwnnw’n bwnc yn Atodlen 7 ar hyn o bryd.

 

 

M4 Datblygiad

 

 

200 - Rheoleiddio –

(a) dylunio a chodi adeiladau,

(b) dymchwel adeiladau, ac

(c) gwasanaethau, ffitiadau ac offer a ddarperir mewn adeiladau neu mewn cysylltiad â hwy.

 

Oes

Ar hyn o bryd, mae gan Weinidogion Cymru gymhwysedd gweithredol i wneud Rheoliadau Adeiladu, ac eithrio yn achos seilwaith ynni. Mae cymal 28 y Bil drafft yn datganoli swyddogaethau gweithredol i Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â seilwaith o’r fath.

 

Er nad yw rheoleiddio adeiladu yn bwnc penodol yn Atodlen 7 ar hyn o bryd, nid yw ychwaith yn eithriad. Felly, caiff y Cynulliad, ar hyn o bryd, basio cyfreithiau ynghylch rheoleiddio adeiladu sy’n ymwneud â meysydd pwnc yn Atodlen 7 fel ‘adeiladau rhestredig’ neu ‘warchodaeth amgylcheddol’, cyhyd â bod dim o’r eithriadau a’r esemptiadau o gymhwysedd deddfwriaethol yn gymwys. Yn benodol, nid oes gan y Cynulliad Cenedlaethol y cymhwysedd deddfwriaethol i ddeddfu mewn perthynas ag "arbed ynni, ar wahân i ddefnyddio ynni’n effeithlon ac eithrio drwy wahardd neu reoleiddio”. Mae’n ymddangos felly y byddai’r cynnig newydd yn lleihau cymhwysedd presennol y Cynulliad.

201 Datganiadau polisi cenedlaethol o dan Ddeddf Cynllunio 2008.

 

Nac oes

 

202- Pwnc Rhan 3 i Ran 8 o Ddeddf Cynllunio 2008, i’r graddau y mae’n ymwneud â-

 

(a) datblygiad o fath y byddai caniatâd datblygu wedi bod yn ofynnol ar ei gyfer o dan y Ddeddf honno ar y dyddiad cychwyn os oedd y datblygiad i gael ei gynnal i unrhyw raddau yng Nghymru, a

(b) datblygiad a fyddai wedi bod yn ddatblygiad cysylltiedig o dan adran 155 o’r Ddeddf honno mewn perthynas â’r math hwnnw o ddatblygiad ar y dyddiad hwnnw;

Ac at y diben hwn y "dyddiad cychwyn" yw’r dyddiad y daw adran 3(1) o Ddeddf Cymru 2016 i rym.

 

 

Oes

Mae cymalau 17 a 18 y Bil drafft yn diwygio Deddf Cynllunio 2008 a Deddf Trydan 1989 fel mai Gweinidogion Cymru bellach sy’n gwneud penderfyniadau am bob gorsaf cynhyrchu ynni gwynt ar y tir a weithredir yng Nghymru ac am orsafoedd   cynhyrchu trydan eraill yng Nghymru ac yn nyfroedd tiriogaethol Cymru hyd at 350MW. Yr Ysgrifennydd Gwladol fydd yn parhau i ymdrin â phrosiectau dros 350MW (ac eithrio gwynt) drwy broses y Prosiectau Seilwaith Genedlaethol eu Harwyddocâd. Hefyd, mae’r Bil yn darparu y bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn gallu gwneud penderfyniad ar unrhyw ddatblygiad cysylltiedig â phrosiectau dros 350MW (ac eithrio gwynt) pan fyddant yn gysylltiedig â seilwaith. Ar hyn o bryd, awdurdodau lleol yng Nghymru sy’n gwneud penderfyniadau o’r fath.

 

Mae’r mater hwn a gedwir yn ôl yn nodi’n glir bod datblygiad o’r fath neu ddatblygiad cysylltiedig o’r fath, y byddai angen caniatâd ar ei gyfer gan yr Ysgrifennydd Gwladol ar ddyddiad cychwyn y darpariaethau cymhwysedd newydd (h.y. y prosiectau hynny (heb gynnwys gwynt) sydd dros 350MW) yn parhau i fod yn faterion nad oes gan y Cynulliad ddim cymhwysedd ynddo.

 

Mae cymalau 17 a 18 yn dod i rym yn awtomatig ddau fis i’r dyddiad cychwyn. Felly, cyhyd â bod adran 3(1) yn dod i rym ar ôl dau fis i’r dyddiad cychwyn bydd gan y Cynulliad gymhwysedd dros bob prosiect gwynt ar y tir a phrosiectau cynhyrchu trydan eraill hyd at 350MW yng Nghymru ac yn nyfroedd tiriogaethol Cymru.

 

203 - Ardoll seilwaith cymunedol

Nac oes  

 

204 - Prynu tir yn orfodol

Oes

Nid yw prynu gorfodol wedi’i eithrio o gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad ar hyn o bryd, ac er ei bod yn annhebygol y gallai Deddf Cynulliad greu newid i’r system prynu gorfodol ar raddfa eang, ymddengys nad oes rheswm pam na allai deddfwriaeth y Cynulliad, er enghraifft, wneud newidiadau i bwerau prynu gorfodol awdurdodau lleol lle mae hyn yn ymwneud â phwnc arall yn Atodlen 7 e.e. cynllunio gwlad a thref.

N7 Gweithrediadau mwyngloddio gwely môr dwfn

 

 

213 - Gweithgareddau at ddibenion gweithrediadau mwyngloddio gwely môr dwfn

Nac oes